Department For Transport
Maer rhestr a ganlyn iw gweld ar ffurf gryno trwy gydol y Rheolau. Ni fwriedir iddo fod yn ganllaw cynhwysfawr, ond yn ganllaw i rai o bwyntiau pwysig y gyfraith. I gael union eiriad y gyfraith, cyfeiriwch at y Deddfau ar Rheoliadau amrywiol (fel yu diwygiwyd) a nodir yn y Rheolau. Maer byrfoddau wediu rhestru isod.
Maer rhan fwyaf or darpariaethau yn berthnasol i holl ffyrdd ledled Prydain Fawr, er bod rhai eithriadau. Y diffiniad o ffordd yng Nghymru a Lloegr yw unrhyw briffordd ac unrhyw ffordd arall y mae gan y cyhoedd fynediad iddi ac maen cynnwys pontydd y mae ffordd yn mynd drostynt (RTA 1988 sect 192(1)). Yn yr Alban, ceir diffiniad tebyg a gaiff ei ymestyn i gynnwys unrhyw ffordd y mae gan y cyhoedd hawl tramwyo drosti (R(S)A 1984 sect 151(1)).
Maen bwysig nodi bod cyfeiriadau at ffordd yn gyffredinol felly yn cynnwys llwybrau troed, llwybrau ceffylau a llwybrau beiciau, a llawer o ffyrdd a thramwyfeydd ar dir preifat (gan gynnwys llawer o feysydd parcio). Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd y gyfraith yn berthnasol iddynt a gall fod rheolau ychwanegol ar gyfer llwybrau neu ffyrdd penodol. Mae rhai troseddau gyrru difrifol, gan gynnwys troseddau yfed a gyrru, hefyd yn berthnasol i bob man cyhoeddus, er enghraifft meysydd parcio cyhoeddus.
Maer cyfeiriad at ardal argyfwng yn y Cod yn ardal loches argyfwng fel yi diffinnir yn y Rheoliadau Traffig Traffyrdd (Cymru a Lloegr) 1982 fel yi diwygiwyd gan y Rheoliadau Traffig Traffyrdd (Cymru a Lloegr) (Gwelliant) (Lloegr) 2015.
Mae Deddfau a rheoliadau ar gael fel yu deddfir neu fel yu diwygiwyd yn www.legislation.gov.uk ac maent ar gael yn eu fformat print gwreiddiol o The Stationery Office.