Bwriad y system pwyntiau cosb yw atal gyrwyr a beicwyr modur rhag ddilyn arferion moduro anniogel. Gall rhai troseddau difoduro, e.e. methu cywiro diffygion cerbyd, hefyd ddenu pwyntiau cosb.
Maen RHAID ir llys orchymyn pwyntiau iw hardystio ar y drwydded yn l y rhif sefydlog neur amrediad a osodir gan y Senedd. Mae cronni pwyntiau cosb yn rhybudd i yrwyr a beicwyr modur bod perygl anghymhwyso os bydd troseddau ychwanegol yn cael eu cyflawni.
Y gyfraith RTOA sects 44 & 45
Maen RHAID i yrrwr neu feiciwr modur syn cronni 12 neu fwy o bwyntiau cosb o fewn cyfnod o 3 blynedd gael ei anghymhwyso. Bydd hyn am gyfnod o 6 mis o leiaf, neu fwy os ywr gyrrwr neur beiciwr modur wediu hanghymhwyso yn y gorffennol.
Y gyfraith RTOA sect 35
Ar gyfer pob trosedd syn arwain at bwyntiau cosb, mae gan y llys b?er i orchymyn i ddeiliad y drwydded gael ei anghymhwyso yn l disgresiwn. Gall hyn fod ar gyfer unrhyw gyfnod y gwl y llys yn dda, ond fel arfer bydd rhwng wythnos ac ychydig o fisoedd.
Yn achos troseddau difrifol, fel gyrru peryglus ac yfed a gyrru, maen RHAID ir llys orchymyn anghymhwysiad. Y cyfnod lleiaf yw 12 mis, ond ar gyfer ad-droseddwyr neu lle mae lefel yr alcohol yn uchel, gall fod yn hirach. Er enghraifft, bydd ail drosedd gyrru ac yfed o fewn 10 mlynedd yn arwain at o leiaf 3 blynedd o anghymhwysiad.
Y gyfraith RTOA sect 34