Office Of The Public Guardian
Bydd Amy Holmes, sydd ar hyn o bryd yn Gyfarwyddwr Materion Domestig yn yr Ysgrifenyddiaeth Economaidd a Domestig yn Swyddfar Cabinet, yn ymgymryd rl y Gwarcheidwad Cyhoeddus a Phrif Weithredwr Swyddfar Gwarcheidwad Cyhoeddus yn yr hydref.
Bun llwyddiannus mewn cystadleuaeth deg ac agored am y rl ac maer Dirprwy Brif Weinidog wedi cymeradwyo ei phenodiad.
Dywedodd Jo Farrar, Ail Ysgrifennydd Parhaol y Weinyddiaeth Gyfiawnder a Phrif Swyddog Gweithredol y Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EM:
Rwyn edrych ymlaen at groesawu Amy iw rl hollbwysig fel Gwarcheidwad Cyhoeddus a Phrif Swyddog Gweithredol Swyddfar Gwarcheidwad Cyhoeddus. Bydd Amy yn dod chyfoeth o brofiad o yrfa llwyddiannus mewn llywodraeth i arwain cynlluniau uchelgeisiol Swyddfar Gwarcheidwad Cyhoeddus i wella a moderneiddio ei gwasanaethau. Edrychaf ymlaen at groesawu Amy pan fydd hin dechrau yn y swydd yn ddiweddarach eleni.
Bydd Stuart Howard yn parhau yn ei rl fel Gwarcheidwad Cyhoeddus Dros Dro Swyddfar Gwarcheidwad Cyhoeddus nes bydd Amy yn ymuno r asiantaeth yn yr hydref, ac ar l hynny bydd yn parhau yn ei rl fel Pennaeth Sicrwydd Cyfreithiol a Gwybodaeth